Dyma Sofiia, Natalia a Danylo - siaradwyr Cymraeg newydd 🏴 👋
Mae'r tri yn mynychu uned trochi'r Gymraeg ar Ynys Môn ar ôl ffoi o'r rhyfel yn Wcráin.
Mwy yma 👉
Pwyll piau hi wrth ddathlu 🎉😂
Yr olygfa y tu allan i dafarn y Llew Coch ym Mhontrhydfendigaid ar raglen Newyddion S4C, wedi buddugoliaeth Cymru yn erbyn Twrci ⚽🏴
Mae cefnogwyr sydd â nwyddau gyda symbol yr enfys arnynt wedi profi trafferthion wrth fynd i mewn i'r stadiwm i wylio Cymru.
Dyma brofiad
@LauraMcAllister
.
Er ei fod wedi ei eni a’i fagu yn Awstralia mae Gethin Thomas yn ymfalchïo yn y Gymraeg a’i Gymreictod.
Heddiw chwaraeodd i dîm dan 19
@WalesRugbyL
am y tro cyntaf.
🏴 🇦🇺
Dyma berfformiad teimladwy merch fach saith oed o anthem Wcráin 🇺🇦
Aeth Amelia Anisovych yn feiral wedi iddi ganu mewn lloches bom a bu’n perfformio’n fyw o Aberystwyth ar
@S4C
nos Sul 🌟
Meet Sofiia, Natalia and Danylo - who are new Welsh speakers 🏴👋
The three have been attending a Welsh language immersion unit on Anglesey after fleeing the war in Ukraine.
"Pob lwc Wrecsam!"
Ar drothwy gêm ail-gyfle dyngedfennol i
@Wrexham_AFC
ddydd Sadwrn, mae cyd-berchennog y clwb
@RMcElhenney
wedi dweud y byddai sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr yn "amcan hir-dymor." 🏴⚽️
Mae
@FardadFarahzad
, sy'n gyflwynydd teledu yn Iran, yn dweud bod "y sefyllfa yn y wlad yn dipyn gwahanol i’r gorffennol” wrth i brotestiadau gael eu cynnal yn dilyn marwolaeth Mahsa Amnini.
Mae Cyngor Ceredigion wedi ei henwebu am wobr am eu gwaith yn cefnogi ffoaduriaid. Heno am 9, fe glywn ni gan ddau blentyn o Syria sydd bellach yn ystyried Aberteifi yn gartref.
🏴 🇺🇦 '‘Dwi wedi gwneud lot o ffrindiau yn fama, so dwi efo dau adra.’
Ar drothwy dwy flynedd ers cychwyn y rhyfel yn Wcráin, mae merched ifanc a wnaeth ffoi o'u mamwlad wedi 'setlo'n dda'.
Ac mae gan un hoff air Cymraeg newydd.
🎉 'Gobeithiais i gael B - a nawr mae B gyda fi yn Cymraeg TGAU.'
Llongyfarchiadau i Bohdan a wnaeth ffoi o Wcráin ym mis Mawrth y llynedd ar dderbyn ei ganlyniadau.
🏴 ‘Mae’n arbennig gweld sut mae’r plant eraill wedi gwneud cymaint o ymdrech i helpu nhw efo’r Gymraeg.’
Mae Sofiia a Natalia o Wcráin a ddaeth i sylw’r byd y llynedd bron yn rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn ac wrth eu boddau yn parhau i ddysgu'r iaith.
🎶 '“Arglwydd, trugarha. Crist, trugarha.'
Y Kyrie Eleison gan
@Bryn_Terfel
oedd y tro cyntaf i’r Gymraeg chwarae rhan yng ngherddoriaeth seremoni'r coroni.
"Smo fe'n teimlo'n real i dweud y gwir."
Ar ôl cael ei ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer Ewro 2020, mae Rubin Colwill yn falch o ddilyn ôl troed cyn-ddisgybl arall
@YsgolYstalyfera
, Ben Davies 🏴
"Fi jyst ddim yn gweld sut mae'n mynd i stopio"
Cafodd Ben Cabango negeseuon hiliol ar ei gyfrif Instagram yn dilyn buddugoliaeth tîm pêl-droed Cymru dros Mecsico ym mis Mawrth.
Gwnaeth hynny "ladd" ei brofiad o gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf, meddai.
"Dear me, he really, really is awful"
Mae hi wedi dod i'r amlwg fod y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi beirniadu Prif Weinidog y DU Boris Johnson yn dilyn cyfarfod COBRA cyn yn Nadolig.
Cafodd y sylwadau eu darlledu mewn rhaglen ddogfen ar S4C nos Sul.
Welso chi
#AmDro
ar S4C neithiwr?
📺🚶🏼🚶🏼📺
"Os sw ni'n cal chans i neud o eto, sw ni'n rhoi un allan o ddeg i bawb"
Ar ôl tynnu blewyn allan o drwyn sawl un, nid yw Llŷr Alun yn difaru dim byd am ei ymddygiad ar y rhaglen.
Meet Sofiia, Natalia and Danylo - who are new Welsh speakers 🏴👋
The three have been attending a Welsh language immersion unit on Anglesey after fleeing the war in Ukraine.
⛰️ Bydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn defnyddio ei enw Cymraeg yn unig o hyn allan, meddai'r rheolwyr.
🔥 Doedd yr enw Saesneg 'Brecon Beacons' ddim yn addas mwyach wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.
"It was such an exciting moment for me and my son" 🏴
Rob McElhenney yn rhannu ei brofiad o ddarganfod diwylliant Cymru wrth annerch torf yn LA i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Ein gohebydd
@MaxineERHughes
aeth i gael yr hanes 🚨
Dydd Gŵyl Dewi Hapus
@RMcElhenney
🤩
"Nid braint yw'r cyfle i siarad Cymraeg gyda'r heddlu ond hawl yw hi."
Mae'r Gymraeg yn flaenoriaeth i ddarpar Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys
@RichardWLewis
Chi 'di gweld y gwymp *yna*? 👀
"Fi'n iawn, fi'n iach a bopeth...y peth bwysig oedd y tri phwynt i Gymru ddoe"
Mae'r dyn ei hun yn barod am gêm nesa'r crysau cochion ddydd Sul, ydych chi? ⚽🏴
#Euro2020
🚙 🚙 Yn dilyn adroddiadau fod rhesi o geir wedi'u parcio'n beryglus ar y ffordd i fyny Pen-y-pas ger Nant Peris ddydd Sadwrn, mae’r heddlu wedi bod yn cludo cerbydau i ffwrdd yn ddiweddarach.
Mae teulu a gollodd eu mab yn ddiweddar yn dweud bod yn rhaid “chwalu stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl” yng nghefn gwlad.
Bu farw Twm Bryn o Chwilog ym mis Hydref eleni, rai dyddiau ar ôl troi’n 21 oed. Y gred yw ei fod wedi marw o ganlyniad i hunanladdiad.
🏴 🇺🇦 'Doeddwn i ddim eisiau byw yng Nghymru heb allu siarad yr iaith.'
Mae bachgen o Wcráin wedi sefyll arholiadau TGAU Cymraeg – 10 mis yn unig ar ôl cyrraedd Cymru.
"Natho nhw ganslo rhaglan Tudur Owen - dyna 'di'r peth gwaetha' sydd 'di digwydd y flwyddyn 'ma!"
Gyda Dug Caeredin wedi ymweld â Chaernarfon ar sawl achlysur, Elen Wyn o raglen Newyddion S4C fu'n casglu'r ymateb i farwolaeth y Tywysog Philip yn y dref.
“Life and death… that’s what life boils down to in the trenches....”
Gydag adroddiadau bod lluoedd Rwsia'n ennill tir yn ninas Bakhmut, un fu'n brwydro yno ar ran lluoedd Wcráin yw
@SarahAshtonLV
Un o ddynion busnes mwyaf llwyddiannus Prydain yn rhagweld annibyniaeth i Gymru yn ystod ei oes.
Dywedodd cyd-sylfaenydd cwmni archebu bwyd
@JustEatUK
y sylwadau wrth raglen
@ybydyneileS4C
👇
"Dwi'n dysgu Cymraeg achos Cymraeg ydi'r iaith yn Cymru."
Mae Ayda, Tsege a Xiao Xia yn geiswyr lloches sydd wedi dechrau dysgu Gymraeg ar ôl iddynt gael llety yng Nghasnewydd.
💔 'He died in their arms. It was his last goodbye.'
Yn y ddadl am y terfyn cyflymder 20mya yn y Senedd dywedodd
@Adamprice
ei fod wedi ail-ymweld â'r stryd lle y cafodd ei gefnder ei ladd mewn gwrthdrawiad car.
💔 Roedd Mark Drakeford yn emosiynol wrth drafod ‘baich annioddefol galar’ yng nghynhadledd Gymreig y Blaid Lafur.
Dywedodd ei fod am greu Cymru ‘lle y gallwn ni ddibynnu ar ei gilydd mewn amseroedd anodd’.
"Mi oedd Huw yn gymaint o gymeriad, mi oedd o mor hoffus, mor hwyliog"
Teyrnged Catrin Angharad Jones i'w brawd-yng-nghyfraith Huw Gethin Jones a fu farw'n 34 oed ar ôl profi'n bositif am Covid-19.
🏴 ‘Oni bai bod fi’n siarad Cymraeg bydden i byth wedi cal swydd gyda
@S4C
… a dyna sydd wedi arwain at y jobyn dwi’n neud nawr.’
@MissAlexjones
, Llywydd y Dydd yn
@EisteddfodUrdd
, yn sôn am bwysigrwydd y Gymraeg yn ystod ei gyrfa.
#Urdd2023
“Fi’n teimlo’n bositif bod fi’n mynd i ymladd hwn.”
Ddiwrnod ers cyhoeddi fod ganddi ganser, mae'r cyflwynydd Mari Grug wedi bod yn trafod ei phrofiadau a'i theimladau.
👉
"One of our goals...is to spread the word of Wrexham and what Wrexham and what North Wales represent" 🥺❤️
Mewn cyfweliad egsgliwsif â Newyddion S4C, mae cyd-berchennog CPD
@Wrexham_AFC
yn dweud fod pobl Wrecsam yn bodoli ar draws y byd 🌍⚽️
@RMcElhenney
|
@MaxineERHughes
"Y peth sy'n rhoi'r fwya o foddhad i mi ydi bod hi di croesi'r ffin iaith."
Mae'n destun balchder i Dafydd Iwan fod chwaraewyr
@Cymru
wedi dewis Yma o Hyd i gael ei chanu cyn y gêm yn erbyn Awstria nos Iau.
'Personally, the last 12 months have been the hardest and the saddest of my life.'
Roedd Mark Drakeford yn ddagreuol wrth iddo ddiolch i eraill am eu cefnogaeth wrth ymddiswyddo fel y Prif Weinidog brynhawn 'ma.
"Hoffwn i weld rhywbeth fel hyn yn barhaol."
Un o hynafiaid cenhedlaeth Windrush sy'n galw i gadw'r arddangosfa gan Amgueddfa Cymru yn barhaol i ddathlu hanes pobl ddu Cymru ⬇️
❤️ 'Mi fydd hi efo ni'r holl ffordd.'
Nos Wener fe fydd tua 20 o deulu a ffrindiau agos Betsan Wyn Morris yn gwneud Her y Tri Chopa mewn 24 awr er cof amdani.
Pennaeth ysgol gynradd yn dweud ei bod hi'n methu fforddio prynu tŷ yn ardal Abersoch, ond ei bod hi'n ennill gormod o gyflog i godi a byw mewn tŷ fforddiadwy yn yr ardal.
Y stori'n llawn heno ar
@Newyddion9
.
❤️ ‘Fysa Josh wedi bod wrth ei fodd efo’r her.’
Bydd tîm pêl-droed y Gym Gym yng Nghaerdydd yn rhedeg 456 milltir i godi arian at elusen er cof am Joshua Lloyd Roberts o Gaernarfon.
@YGymGym
@gymgympeldroed
“I’m happy because I meet with my Nain and Taid, I want to visit Wales.”
Ar ôl ffoi o Wcráin mae Albina, sy’n 12 oed, wedi aduno â'i theulu ar y ffin yn Slofacia.
🏴 🇺🇦
*RHYBUDD - DISGRIFIADAU O GAM-DRIN RHYW. GALL Y CYNNWYS HWN BERI GOFID*
“Os oes rhywun yn dweud eu bod yn cael eu cam-drin, mae’n rhaid i chi gredu nhw”
Am y tro cyntaf, yr actor Gareth Potter sy’n rhannu ei brofiad erchyll o ddioddef cam-drin rhywiol yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.
⚽ 'Mae'r Gymraeg yn rhan o hunaniaeth y tîm.'
Llywydd y Dydd ar faes yr Eisteddfod
@elisjames
sy'n canmol y gwaith mae
@Cymru
wedi ei wneud gyda'r
@Urdd
.
Mae'n 200 mlynedd ers i William Webb Ellis afael mewn pêl ar gaeau Ysgol Rugby.
Ond ysgol o Gymru ddaeth i'r brig mewn gêm gwpan oedd yn nodi'r digwyddiad.
@RugbySchool1567
14 - 19
@Ysgol_Glantaf
🏉
🗣️ 'Welsh is in the top 7% of the languages of the world as far as number of speakers is concerned.'
Mae'r ffaith ddifyr hon o gyfweliad yr ieithydd David Crystal o
@prifysgolbangor
gydag
@elisjames
ar Stori'r Iaith neithiwr wedi synnu nifer.
"I will give absolutely everything I've got to make sure that we're successful"
Geiriau Rob Page, prif hyfforddwr
@Cymru
, wrth iddo edrych tuag at ymgyrch gymhwyso'r crysau cochion ar gyfer Euro 2024 ⚽️
Yn un o gonglfeini amlycaf y byd amaeth yng Nghymru, roedd Dai Jones 'Llanilar' yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru wedi degawdau o ddarlledu ar radio a theledu.
'O'dd Josh yn fwrlwm o fywyd. O'dd o'n un o fil'
Teyrnged Catrin Edith Parry ar ran myfyrwyr Caerdydd i'w ffrind Joshua Lloyd Roberts fu farw mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon
Mae ymgyrchwyr iaith yn Llydaw yn dathlu wedi i wleidyddion yn Ffrainc basio deddf fydd yn diogelu a hybu ieithoedd lleiafrifol y wlad.
Mae’r prifardd Aneirin Karadog, sydd a'i wreiddiau’n ddwfn yn Llydaw ac yn rhugl yn yr iaith wedi croesawu'r newyddion.
🏆 Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros!
Mae'r awdur wedi cipio gwobr fawreddog Medal Yoto Carnegie eleni gyda'i chyfieithiad Saesneg o'r nofel Llyfr Glas Nebo.
"Roedd ei gyfraniad i'r iaith Gymraeg yn anferthol" 🏴
Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i gyn-olygydd Radio Cymru, Aled Glynne Davies, wedi i'w gorff gael ei ddarganfod ddydd Mercher.
@thehuwedwards
@Rhuanedd
@DafDu
"Dan ni isio gweld pêl-droed yn dychwelyd i'r gogledd a gweld pêl-droed rhyngwladol yn y Cae Ras"
Ymgyrchwyr yn cyflwyno deiseb i Downing Street yn galw am gymorth i ail ddatblygu'r Cae Ras - cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam. ⚽🏴
@TomiCaws
@Tada1973
Mae canlyniadau etholiad Senedd Ieuenctid Cymru wedi eu cyhoeddi ddydd Mercher.
Ymysg yr aelodau newydd sydd wedi eu hethol, mae un enw sydd wedi dod yn adnabyddus yn ystod y pandemig.
@LloydCymru
Mwy yma ➡️
🗣️ 'Dw i'n gwrthwynebu'n gryf yr holl arian sydd wedi cael ei wastraffu ar y digwyddiad yma.'
Dyma'r brotest yng nghanol Caerdydd yn dilyn seremoni coroni'r Brenin Charles III.
NEWYDD DORRI:
ETHOLIAD UDA 2020 🇺🇸
Gyda Joe Biden yn cipio mwyafrif o bleidleisiau Pennsylvania, mae'r ymgeisydd Democrataidd wedi ennill y ras arlywyddol gyda 273 etholwr.