Ymddeoliad hapus iawn i Mrs Heulwen Evans, wedi 38 mlynedd yn dysgu yn Ysgol Gynradd Llanrug. Diolch o galon i Mrs Evans am gyfraniad enfawr yn yr ysgol gan y plant, staff, rhieni ar Llywodraethwyr. Diolch am y cyfeillgarwch a chyfraniad arbennig i ardal Llanrug. Pob hwyl!
Gwenu trwy ddagrau heddiw wrth ffarwelio âg Anti Margaret .Aelod gwerthfawr o staff yr ysgol ers blynyddoedd. Ffrind annwyl i ni gyd. Ar ran y plant a’r staff diolch o galon.
Diwrnod anhygoel yn y Drenewydd heddiw. Pencampwyr ysgolion Gwynedd yn gyd-bencampwyr ysgolion Cymru! 0-0 oedd hi yn y gem derfynol ar ôl amser ychwanegol! Balch iawn o’r hogia. 👏🏻⚽️🏴🥇🏆
@GwyneddSchools
Diolch yn fawr iawn
@WelshSchoolsFA
Diolch enfawr i bawb am gyfrannu i BBC Plant Mewn Angen. Llwyddwyd i godi swm anhygoel o £630.48!
Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth ac i’r Cyngor Ysgol am drefnu diwrnod gwerth chweil!
Diolch o galon i bawb a gyfrannodd i fy niwrnod ymddeoliad bendigedig. Diolch i’r holl staff a rhieni am eich haelioni.
Bydd gennyf atgofion melys a hapus iawn am byth a fedrai ddim diolch digon am y gefnogaeth a’r cyfeillgarwch xx
Eirian Howells 📚📝
Llongyfarchiadau MAWR i’r criw yma o Ysgol Llanrug yn Eisteddfod Eryri heddiw! Gwobr 1af i’r grŵp llefaru. Diolch i chi gyd am yr holl waith caled ac i Mrs Llinos Evans am hyfforddi. Ymlaen â ni i Lanymddyfri! 👏👏
@UrddEryri
@CyngorGwynedd
Llongyfarchiadau mawr i’r bechgyn yma am ddod yn fuddugol yn Nhwrnament ysgolion Cymru heddiw yng Nghaerdydd. Roedd y tri yn ran o dîm Ysgolion Gwynedd. Gwych hogia! 👏🏻👏🏻👏🏻⚽️
Wel am lwcus! Roedd posib cynnal mabolgampau yr Adran Iau bore’ma! Y plant wedi mwynhau a gwenud eu gorau glas! Llongyfarchiadau i Seiont am ennill y gwpan. 🏃♀️🏃🏼🏃🏻♂️❤️💙💛💚
Braf iawn oedd gweld cymaint wedi dod i’r bore coffi heddiw. Hyfryd gweld rheini, teulu a ffrindiau yn dod at ei gilydd i fwynhau paned, cacen a gwledd o adloniant gan blant yr ysgol. Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ac i Bwyllgor Masnach Deg yr ysgol am drefnu. ☕️🎶
Llongyfarchiadau mawr i dîm criced yr ysgol am ddod yn bencampwyr Eryri heddiw! Diwrnod bendigedig ym Mhwllheli! Diolch i
@UrddEryri
am drefnu’r diwrnod a’r 🌞!👏🏻👏🏻⭐️🏏🥇
Gobeithio fod pawb wedi cael gwylia’ haf bendigedig! 😃 Mae Madi’r cî ysgol yn edrych ymlaen i fod yn rhan o deulu Ysgol Gynradd Llanrug o Ddydd Llun ymlaen! 😍📚Mwynhewch y penwythnos 😎🐶🐾
@CALtherapydogs
Yr hogia wedi cael y cyfle heddiw i ddangos y darian a enillodd tim peldroed Gwynedd yng nghystadleuaeth Pencampwyr Cymru 2022.⚽️
@GwyneddSchools
@WelshSchoolsFA
Gwenu trwy ddagrau heddiw wrth ffarwelio â Mrs Kelly O’Donnell. Aelod o staff clên a hwyliog. Ffrind annwyl i ni gyd. Ar ran y plant a’r staff diolch o galon.
#unofil
#halenyddaear
Balch iawn o’r criw yma yng nghystadleuaeth y grŵp llefaru. Da iawn chi! Pawb yn falch iawn ohonoch. Diolch i Mrs Llinos Evans am hyfforddi ac i’n rhieni. Diwrnod yn yr heulwen yn Llanymddyfri.
#urdd2023
@UrddEryri
@CyngorGwynedd
Braf oedd gweld Capel y Rhos, Llanrug yn orlawn o ddisgyblion a rhieni heno ar gyfer Gwasanaeth Nadolig Cyfnod Allweddol 2 Ysgol Llanrug. Llongyfarchiadau mawr i’r holl blant am wasanaeth arbennig iawn. Da iawn chi! 👏👏👏
Y plant yma wedi gwneud yn wych yng Ngala Nofio Cenedlaethol yr Urdd y bore ma yng Nghaerdydd! Tîm y bechgyn wedi gwneud eu gorau glas a thîm y genethod wedi gwenud yn anhygoel wrth ddod yn 3ydd. Pob lwc i Alaw Edwards fydd yn nofio nes ymlaen heddiw. 🏊
Mae pob dosbarth wedi bod yn brysur yn enwebu ac etholi aelodau newydd ar gyfer ein Cyngor Ysgol. Dyma’r criw fydd yn cynrichioli llais y plant. Da iawn chi👍🏼
Heddiw cynhaliwyd Diwrnod Di-Wisg Ysgol gyda’r disgyblion yn cael cyfle i wisgo glas neu felyn er mwyn dangos cefnogaeth i bobl Wcrain. Dyma’r Cyngor Ysgol yn cadarnhau fod £895 wedi ei gasglu i geisio cynnig cymorth i bobl a phlant Wcrain ar adeg mor erchyll.
Ras 5k Llanrug 🏃🏿🏃♀️🏃♂️Daeth cannoedd draw neithiwr i redeg a chefnogi ein ras. Diolch o waelod calon i’r holl wirfoddolwyr a da iawn i’r enillwyr.👏🏻👏🏻👏🏻
@sportspicturescymru
Llongyfarchiadau mawr i’r tîm arbennig yma am ddod yn fuddugol yn nhwrnament Pel-droed yr Urdd Eryri heddiw! Diwrnod gwych yn yr haul a braf gweld gymaint o blant yn mwyhau eto. Diolch yn fawr iawn
@UrddEryri
am drefnu.⚽️🏴
Diolch i Mrs Rhian Thomas am drefnu Ras Llanrug ar ran Ysgol Llanrug, i’r staff a chyfeillion a fu’n stiwardio a helpu, i Ffrindiau Ysgol Llanrug am drefnu’r lluniaeth a chadw trefn ar y parcio ac i Redwyr Eryri. Llongyfarchiadau mawr i bawb a redodd ac am gefnogi
@Eryriharriers
Rydym yn ffarwelio heddiw efo Miss Sophie Roberts ar ôl 8 mlynedd hapus a gweithgar yn Ysgol Gynradd Llanrug. Diolch enfawr i Miss Roberts am ei ymroddiad di flino. Pob lwc yn dy swydd newydd.
Braf oedd cael bod yn ôl mewn gala nofio heddiw yn
@CH_Arfon
. Y plant wedi mwynhau yn fawr ac wedi gwneud yn ardderchog drwy ddod yn gyntaf! Diolch i
@BywnIachCymru
am drefnu. 🏊🏻♀️🏊🏊♂️💦
Plant Ysgol Llanrug yn dathlu Gŵyl Ddewi heddiw gan ganu Dwi’n Gymro dwi’n Gymraes. Dathlu bod 86% yn siarad Cymraeg ym mhentref Llanrug a 92% yn siarad Cymraeg yn Ffordd yr Orsaf. Daliwch ati! 👏👏
@Siarteriaith
@CyngorGwynedd
@BrownBeca
Cynwrf mawr ym mlwyddyn 1a2 bore ma cael mynd am eu trip cyntaf eleni🚌draw ym Mharc Padarn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Ysgol Goedwig.
@ForestSchoolW
#forestschools
Disgyblion Blwyddyn 3 wedi mwynhau eu Mabolgampau Cyfnod Allweddol 2 cyntaf. Llongyfarchiadau i bawb am gymryd rhan ac am ddangos gymaint o frwdfrydedd! 👌🏻👍🏻👏🏻
Da iawn i’r unigolyn yma am gynrychioli Cymru ac Ysgol Llanrug yn y gystadleuaeth ‘Schools Tumbling National Finals’ yn Stoke. Llongyfarchiadau enfawr am ddod yn 5ed trwy Brydain. Gwych mae’r holl waith caled wedi talu.🤸🏾🏴🏅👏🏻
Er gwybodaeth bydd Tintin, Supertaten, Norman Price, Y Jiraff Na Allai Ddawnsio a Jac y Jwc yn dysgu eich plant heddiw! 🤣🤣
#diwrnodyllyfr2034
#WorldBookDay2024
Llongyfarchiadau mawr i’r ddau yma ar gael cyntaf yn y gystadleuaeth Dawns Stepio Grŵp yn yr Eisteddfod Ddawns neithiwr. Diolch i Mr Jones am hyfforddi. Ymlaen i Faldwyn! 👏👏
@UrddEryri
Noson lwyddiannus iawn yn Llanrug heno! Ras Redeg Llanrug. Diolch i Kelly o
@ffitcymru
am ddod draw i gychwyn ras blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. Da iawn chi blant. 🏃♂️🏃🏻🏃🏼♀️👏👏👏
⭐️ Y Cyfanswm Mawr! Diolch i chi gyd, yn rieni a disgyblion, am eich haelioni caredig.
⭐️The Grand Total! Thank you all, parents and pupils, for your kind generosity.
Alys Williams ac Yws Gwynedd wedi bod yn brysur yn gwrando armom ni i bgyd yn canu ein caneuon.Dyma nhw efo'r enillwyr.Llongyfarchiadau i ddosbarth Mrs H Evans a Miss Tecwyn
#shwmaesumae
🎼🎸🎤Melltith wedi taro’r nodyn heddiw a chael cyntaf efo grwp bl 6 ac iau. Da iawn chi hogs! Dyma nhw yn perfformio bore Gwener i weddill yr ysgol.
@Urdd
@YsgolGynLlanrug
@BBCCymruFyw
@S4C
Llongyfarchiadau mawr i’r unigolyn yma ar gynrychioli Eryri mewn cystadleuaeth gymnasteg yng Nghaerdydd. Cafodd 3ydd yn unigol, Tim Eryri yn 2il, a sgoriodd yn y ddau uchaf yn y ‘tumble.’ Bydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Ysgolion Prydain yn Stoke ym mis Mai. Gwych 👏
Llongyfarchiadau i dîm pel-rwyd yr ysgol am wneud yn wych yn nhwrnament yr Urdd heddiw. Bu gem agos iawn yn y rownd gyn-derfynol. Colli i ‘Golden goal’ oedd hi heddiw yn yr amser ychwanegol. Da iawn chi genod. Diolch
@UrddEryri
am drefnu.🏀