Lle mae lleisiau o bob cymuned yn cael eu cynrychioli i wneud penderfyniadau dros Gymru. Dy Lais. Dy Senedd. Ein Dyfodol 🏴 In English:
@SeneddWales
Mae nifer o ddadleuon yn cael eu cynnal yn y Senedd heddiw.
Ymhlith y pynciau mae'r ddeiseb ar 20mya, addysg wleidyddol mewn ysgolion a thwristiaeth yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth 👉
🔴 YN FYW NAWR: Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dyma lle mae Vaughan Gething
@PrifWeinidog
, neu weinidog penodol, yn ateb cwestiynau gan Aelodau o’r Senedd yn y Siambr.
👉
Heddiw, bydd Aelodau o’r Senedd yn gofyn cwestiynau i’r
@PrifWeinidog
am 1:30pm.
Byddant yn clywed datganiad am y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac yn trafod y defnydd mandadol o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai.
Rhagor o wybodaeth 👉
Rydym yn recriwtio Rheolwr Gwybodaeth i’r Cyhoedd yn y Senedd!
Dyma gyfle gwych i weithio i’r Senedd i ddarparu taith ddi-dor i gwsmeriaid ar draws ein holl wasanaethau.
Diddordeb? Gwnewch gais heddiw! ➡️
Rydym ni eisiau recriwtio Gweinyddwr Dysgu a Datblygu i ymuno â’n tîm Dysgu a Datblygu.
Os oes gennych chi sgiliau cyfathrebu, blaenoriaethu a threfnu rhagorol, byddai’n wych clywed gennych chi!
👉
Mae hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru yn parhau i ysbrydoli canrif yn ddiweddarach. Neges heddwch ac ewyllys da yr
@Urdd
yn teimlo’n hynod berthnasol eleni, ac rwy’n falch iawn i’w gefnogi.
#Heddwch2024
Heddiw mae baner Balchder Blaengar yn cyhwfan yn uchel ar
#IDAHOBIT
, a byddwn yn goleuo’r Senedd.
Rydym yn falch iawn o gefnogi hawliau pob person LHDTC+ yng Nghymru a ledled y byd.
#IDAHOBIT24
Heddiw, bydd
@SeneddCymru
yn trafod adroddiad
@seneddiechyd
ar daith menywod gyda chanser gynaecolegol.
Darllenwch ein herthygl sy’n canolbwyntio ar straeon 3 menyw eithriadol: Claire, Linda a Judith, a siaradodd yn ddewr am eu profiadau.
➡️
YN FYW: Gwyliwch
@SeneddCymru
wrth i ni gynnal sesiwn graffu gyffredinol gydag Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
📺Gwyliwch yn fyw
@seneddtv
- Byw-Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol-15/05/24
Heddiw bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod rheoli cynhyrchion tybaco a nicotin, practisau meddygon teulu a chyllido, ac adroddiad
@seneddiechyd
ar daith menywod drwy ganser gynaecolegol.
Rhagor o wybodaeth:
Parsel Cyffrous! 📬
Mae eitemau o
@AWGymreig
@LLGCymru
wedi bod ar daith arbennig i fod yn rhan o'n harddangosfa newydd.
Cymerwch gip ar y digwyddiadau allweddol yn ystod y 25 mlynedd diwethaf o ddatganoli.
#Senedd25
Heddiw, bydd Aelodau’n holi Vaughan Gething AS yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog.
Byddant hefyd yn clywed datganiadau gan Ysgrifennydd y Cabinet yn
@LlywodraethCym
dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Rhagor o wybodaeth:
Oeddet ti’n gwybod bod y Senedd wedi cyfarfod am y tro cyntaf 25 mlynedd yn ôl heddiw?
Gelli di wylio dy Senedd ar waith ar ddydd Mawrth a dydd Mercher:
🔵 o’r oriel wylio
🔵 ar Senedd TV.
Lle bydd materion sy’n bwysig i ti, dy deulu a dy gymuned yn cael eu clywed.
#Senedd25
Beth rwyt ti’n wybod am dy Senedd a datganoli?
Mae’r Senedd wedi troi’n 25 oed yr wythnos hon, felly beth am brofi dy wybodaeth yn ein cwis?!
👉
#Senedd25