Llion Jones
@LlionJ
Followers
4K
Following
3K
Media
420
Statuses
1K
Bardd ar y bêl... yn trydar mewn trawiadau... (neu roi X yn y Gymraeg)... a'r synau'n rhai personol.
Penrhosgarnedd
Joined March 2009
Heno ar hyd y glannau, daw i gof chwe deg wyth o ynnau a sain beiddgar gitarau yn tanio awch crwtyn iau. O'r Rhyl tu hwnt i orwelion dy fyd fe est â'th ganeuon, ond roedd ardal dy galon yn gaer hud i yrfa gron.
Y canwr Mike Peters - prif leisydd The Alarm - wedi marw yn 66 oed ar ôl brwydr 30 mlynedd â chanser https://t.co/qAGMYRhahi 📸 The Alarm
1
17
135
O'u hôl bydd gwaddol ar gae Chwiorydd yn cyd-chwarae.
3
8
46
O droi iaith holl enwau'r dre' Bro galar fydd Bro Gele.
Trist gweld hen dafarn Pen y Bont yn #Abergele yn cael enw Saesneg amhriodol newydd. Mae'r un perchennog hefyd yn ail-enwi'r Gwindy yn The Winery. Mae'r dafarn yna'n ail agor ar #DyddGwylDewi
2
6
36
Job yw i fanijo beirdd a rhoi hefyd i brifeirdd drywydd drwy fyd yr awen a llwybr i loywi ein llên. #cydlynyddbarddas
https://t.co/veckp62wUY
0
6
9
Gydol oes bu geddy lee yn arwr ar fur fy mhosteri, yma nawr mae 'noeau i yn dirwyn trwy ei stori.
2
3
23
Yn ôl darluniau Ollie, Dodl yw iaith o'i dwdlo hi. @YLolfa @OliverTurnbul15
Lansiad llyfr newydd @OliverTurnbul15 - ‘Welsh Doodles / Dwdls Cymraeg’ yn @eisteddfod Genedlaethol Cymru! 🎉 📖 @canolfanbedwyr @colegcymraeg @CymraegBangor
2
2
15
Oherwydd dy lafurwaith fe yrrwn ein myfyrwyr ymaith yn llawen yn yr heniaith a gloyw iawn eu sgiliau iaith.
Dymuniadau gorau i @SianEsmor sy'n rhoi'r gorau i'w swydd fel tiwtor iaith yr wythnos hon. Diolch o galon i chdi am holl waith gyda myfyrwyr a staff @prifysgolbangor @CangenBangor @colegcymraeg dros y blynyddoedd.
1
2
23
Mae hanes a chymuned yma'n dîm, mae 'na dorf ar gerdded o Fangor yn agored i'r ail haen a'i ffydd ar led. ✊@Bangor1876
1
9
49
Ti fu chwedl dy genhedlaeth ar y maes, ŵr mwyn dy arwriaeth, yn cymell er gwell, er gwaeth, dy wal â'th ysbrydoliaeth. #diolchchris
0
8
47
Cael lle gwag, rhoi pas agos, Pirlo sir Benfro heb os A'n harwr yn yr Euros. #DiolchJoe 😢
0
10
55
I gynnal iaith y galon, Gorau arf ydy'r bêl gron. #afoben
‘Ben Davies speaking gibberish’ 🏴 Fe wnaeth @ben_davies33 dderbyn negeseuon sarhaus gan drolwyr ar ôl iddo siarad Cymraeg mewn Cynhadledd Cwpan y Byd yn Qatar y llynedd ⚽️ Dyma ei ymateb 👇🏼 #YBydarBedwar #Football #Welsh
@Spursofficial @FAWales
1
5
34
Yn eisteddle dyhead bu'r geiriau ar glustiau gwlad mai hir yw pob ymaros fel pader yn nyfnder nos, a neb yn ei hateb hi... Awr yw hon i wirioni, fe ddaeth i ben ein penyd, awn heb ofn hyd lwyfan byd. 🏴🏴🏴
11
85
508