Safle Trydar swyddogol yr ysgol. Rhannwn newyddion, negeseuon a llwyddiannau yn ogystal â dolenni o ddiddordeb. Ysgol Dyffryn Ogwen’s official Twitter account.
Diolch i’r holl ddisgyblion aeth i ffarwelio mor urddasol heddiw efo Alun gŵr Mrs. Ceri Owen. Diolch am ei wên a’i gymwynas a chofion at y teulu oll.
#TeuluYDO
🏉🏉🏉🏉🏉🦈🦈🦈🦈🦈🎉🎉🎉🎉🎉🎈🍾🥛🥛🥛💷💷💷💷Llongyfarchiadau i Huw Davies o flwyddyn 13 ar dderbyn cytundeb 3 mlynedd fel chwaraewr rygbi proffesiynol llawn amser efo Sale Sharks yn cychwyn ddechrau Gorffennaf
@CRBethesda
@Ogwen360
Dymuniadau gorau i Gwydion fydd yn cychwyn ar gwrs Cyfansoddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, edrychwn ymlaen at ddilyn ei yrfa.
@Llais_Ogwan
@SiopOgwen
@CerddYsgolion
Daeth cwmwl arall dros yr ysgol a'r dyffryn yr wythnos diwethaf wrth i ni glywed fod Morgan Hughes o flwyddyn 10 wedi ein gadael. Rydym yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau oll wedi colli hogyn mor ddewr a hoffus a Mogs. Rhoddion er cof
Ymddeoliad hapus Mrs.Julie Jones, craig Adran Gelf YDO ers 1989. Dolchiadau gennym ni oll yma ac hefyd gan gannoedd o gyn-ddisgyblion sydd wedi siapio gyrfa yn sgil ysbrydoliaeth Julie. Darn hyfryd o waith gan Ann Catrin Evans yn anrheg arbennig.
Llongyfarchiadau enfawr i Catherine Roberts Bl.12 am gael ei dewis i garfan nofio Cymru. Huge Congratulations to Catherine, selected for the Welsh Swimming squad.
@Llais_Ogwan
#AmdaniDyffrynOgs
Dymunwn ymddeoliad hapus iawn i Anne Jones sydd wedi gweithio yn y gegin ers 36 o flynyddoedd. Diolch yn fawr iawn iddi am ei gwaith, ei charedigrwydd a’i ymrwymiad ar hyd y blynyddoedd. We’d like to wish Ann Jones a very happy retirement after working in the canteen for 36years.
Llongyfarchiadau i holl fyfyrwyr bl.12 ac 13 ar eich canlyniadau arbennig.
Dyma rai ohonynt: Luned (3A*,2A) Beca (1A*,1A,2B), Boe (2A,2B,1C), Efa (1A*,1A,2C) ac Awel (1A*, 3B)
Thanks to all the pupils gave a dignified farewell to Mrs. Ceri Owen’s husband Alun today. Thanks for his eternal smile and our regards go to all the family.
#TeuluYDO
The school and the community unite once again to mourn the loss of Year 10 pupil Morgan Hughes. Our thoughts are with all his family and friends who've lost such a brave and sincere character in Mogs. All donations welcomed.
Pob lwc i Huw Davies
@CRBethesda
ac Efan Edwards
@YsgolGlanClwyd
@CRDinbych
yn chwarae i dîm dan 18 Sale Sharks yn erbyn Exeter Chiefs, Harlequins a Saracens fory🦈🏴
Dymuniadau gorau a llongyfarchiadau i bob un o’r criw arbennig yma sydd wedi dyfalbarhau a gweithio’n hynod o galed i oresgyn cymaint o rwystrau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Dathlwn eu llwyddiannau🤩
#TGAU
#AmdaniDyffrynOgs
#Classof2021
Dymuniadau gorau i Mrs. Margaret Williams Roberts ar ei hymddeoliad wedi 30 mlynedd o addysgu Hanes yn YDO. Mae sawl cenhedlaeth yn ddyledus iddi am eu hysbrydoli dros y degawdau. Diolch Margaret.
Dyma linc i wasanaeth Nadolig yr ysgol am eleni, diolch i bawb am eich gwaith.
Here's a link to our Christmas Carol service, thanks to all who've contributed (English intro follows the Welsh)
Nadolig Llawen
Dyma i chi seren🤩Mae ethos gwaith,ymroddiad a chymhelliant Catherine i gwblhau’r holl ymarfer,paratoi a chystadlu i’w edmygu’n fawr .Y cyflymaf yn y 200m pilipala 🏊♀️🦋yn ei hoedran yng🏴 o 6eiliad⏱Rydym yn falch iawn o’i llwyddiant!Llongyfarchiadau am gyrraedd sgwad Cymru👏🏽🏴
Rydym yn hynod ddiolchgar i unigolion sydd wedi cyfrannu gliniaduron i ni, mae Mr. Speddy wedi llwyddo i lanhau a pharatoi 5 dyfais wythnos yma i'w menthyg i rai oedd heb offer. Buasem yn gwerthfawrogi unrhyw gynigion eraill. Cysylltwch efo ydo
@ydo
.cymru neu 01248600291. Diolch.
Gyda thristwch mawr ydym yn rhannu’r newyddion am farwolaeth ein cyn brifathro J. Elwyn Hughes. Ieithydd, hanesydd lleol ac yn bennaf oll cyfaill i’r ysgol a phawb sydd wedi pasio drwyddi dros y degawdau. Cydymdeimlad diffuant i’w deulu a’i gyfeillion lu.
Newyddion gwych am gyn-ddisgybl arall- Catherine Roberts. Mae wedi bod yn nofio amseroedd ardderchog ac yn torri ei PB’s yn ddiweddar🏊♀️!! O ganlyniad, mae wedi cael ei dewis i ymuno â rhaglen “Athletwyr addawol Gemau’r Gymanwlad”. ‘Rydym yn falch iawn o’i llwyddiant🏴
@ogwen360
Rhagor o offer PPE sylfaenol yn mynd allan prynhawn ‘ma. Diolch eto i Mr Smith
@YDOTechnoleg
am ei holl ymdrechion💪 More PPE going out to
@BetsiCadwaladr
staff this afternoon. Thank you Mr Smith👏🏽
Llongyfarchiadau i Iestyn a Guto y ddau am astudio Peirianneg, Guto ym Mangor a Iestyn yn Warwick wedi iddo lwyddo i gael 3A* yn ei lefel A.
@Llais_Ogwan
@SiopOgwen
Dim y diweddglo yr oedd bl11 yn ei ddisgwyl eleni ond fe wnaethom lwyddo i roi prynhawn ffarwel iddynt🍕🍩🥤Mae’r disgyblion hyn mor dalentog, gweithgar ac annwyl - mae’r dyfodol yn ddisglair iawn! Diolch am eich cyfraniad i Ysgol Dyffryn Ogwen bois👏🏽
#AmdaniDyffrynOgs
Dymuniadau gorau i Mr.Dylan Jones sydd yn cychwyn ar ei daith fel Pennaeth Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch fis Medi. Gwerfawrogwn oll, yn staff a disgyblion, ei ymroddiad i YDO dros ei gyfnod fel dirprwy. Diolch iddo am y geiriau o’r galon wrth ffarwelio.
Llongyfarchiadau i Hanna Durrant am ennill ei lle yng nghôr cenedlaethol ieuenctid Cymru🏴🎶Rydym yn falch iawn o dy lwyddiant👏🏽 Congratulations Hanna Durrant for successfully auditioning for the National Youth Choir of Wales🏴🎵👏🏽
@ogwen360
@nyaw_ccic
@CerddYDO1
@CerddYsgolion
Llongyfarchiadau i Rhiannon, disgybl arall o
@CerddYDO1
sydd wedi cael ei dewis i fod yn aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
@nyaw_ccic
Congratulations to another fantastic singer who’s been selected for the National Youth Choir Wales
@CerddYsgolion
@Llais_Ogwan
Llongyfarchiadau merched Pesda, tymor arbennig👏🏽Wedi eu harwain yn wych gan y capten Hannah Jones a 9 o’r tim yma yn ddisgyblion
@DyffrynOgwen
🏏🏏🏆
@chwaraeonydo
@ogwen360
Huge congratulations to this fantastic team👌 Successfully captained by Hannah Jones👏🏽👏🏽🏆
🎉 PENCAMPWYR Cynghrair Criced Merched Gogledd Cymru🎉
Llongyfarchiadau i
@CricedBethesda
!
Mae Bethesda wedi gorffen eu tymor heb golli gêm!
Da iawn merched a llongyfarchiadau.
🏏🎉🏴
Llongyfarchiadau i Ryan a Jamie-Anne, y ddau gyda 5A* bob un. Dymuniadau gorau i Jamie-Anne wrth astudio Ffiseg yn Lady Margaret Hall, Rhydychen ac i Ryan wrth astudio ‘Material Science yn Rhydychen (Coleg Mansfield)
@Llais_Ogwan
@SiopOgwen
Llongyfarchiadau i bawb o
@DyffrynOgwen
wnaeth dderbyn graddau TGAU heddiw. Mae pob un ohonoch wedi gwneud yn arbennig er gwaethaf amgylchiadau hynod o heriol⭐️🌟🤩✨
#AmdaniDyffrynOgs
Llongyfarchiadau i Gwydion Rhys ar ennill cystadleuaeth gyfansoddi bl.12-13 Eisteddfod Rhithwir y Gwasanaeth Cerdd.
Congratulations to Gwydion Rhys on winning the composing competition for yr. 12-13 in the Music Service's Virtual Eisteddfod.
Llongyfarchiadau i Elisha, Abigail a Elin ar eu canlyniadau arbennig. Llwyddodd Elin i ennill 10 A*, a 2 A.
Congratulations to Elisha, Abigali and Elin on their exellent results. Elin successfully achieved 10A* and 2A.
All round mixed emotions today for pupils and staff 🎢 But, the show goes on💪Therefore, we’ve prepared 300 sanitary packs and distributed a few. If your daughter was absent, please feel free to pop by tomorrow.
@endperiodpovert
Mae’r newyddion da yn parhau. Llongyfarchiadau i gyn-ddisgybl a chyn aelod o staff Ceri Hulme ar raddio o’r diwedd gyda Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Dylunio Cynnyrch BSc🎓
@BangorUni
@prifysgolbangor
@bangor
Pob lwc hefyd ar dy swydd newydd fel athrawes ar ôl ennill TAR eleni👏🏽
Clywch, clywch! Fedrwn ni ddim bod mwy balch o’n cyn-ddisgybl
@ManonSteffanRos
.
Boed i lygaid y byd agor a rhyfeddu at gyfoeth llenyddol Cymru fach. Llongyfarchiadau enfawr i ti Manon.
Llongyfarchiadau i Ceri Hulme sydd wedi ennill gradd anrhydedd dosbarth 1af yn Prifysgol Bangor mewn Dylunio Cynnyrch BSc. Congrats Ceri 1st class honours in Product Design👌👏
Massive thank you to all pupils, staff and parents at YDO for what we have achieved this term despite the challenges we had to face. We all made an immense effort to continue with learning in various forms whilst following the guidelines to stay safe. Merry Christmas.❤️💜
Dyma i chi griw arall o sêr bl6. Tro
@YsgLlanllechid
heddiw. Dyma nhw’n gweithio’n galed mewn gwers Gymraeg a TGCh🤩 It was time for
@YsgLlanllechid
to have their taster session today. Here they are working hard in a Welsh and ICT lesson🤩
Diwrnod cyntaf arbennig. Diolch yn fawr i’n disgyblion aeddfed ac annwyl am fod mor ystyriol o’r trefniadau newydd. Edrych ymlaen i groesawu mwy yn ol dros y dyddiau nesaf.
#AmdaniDyffrynOgs
Llongyfarchiadau enfawr i bawb o griw Crawia ar berfformiad arbennig Merched y Streic heno.
Well done to all involved in the impressive performances of Merched y Streic this week
Am gamp, mae’r criw yma wedi aros 3-4 mlynedd i gyrraedd y brig yn y gystadleuaeth yma.Rydym mor falch o’ch llwyddiant, mae’r ymroddiad yn eich gwersi ac wrth i chi hyfforddi efo
@CricedBethesda
wedi talu ar ar ei ganfed👏🏽🏏
@BywnIachCymru
@Llais_Ogwan
#AmdaniDyffrynOgs
Not the end to your GCSE year that you expected year11, but we managed to give you a deserving farewell afternoon🍕🍩🥤You’re a super-talented year, hard working and courteous too- the future is bright! Thank you for your contribution to Ysgol Dyffryn Ogwen 👏🏽
#AmdaniDyffrynOgs
Diolch o galon i’r artist Catrin Williams am dreulio deuddydd gyda disgyblion bl7,8 &11 yr wythnos hon yn gweitho ar brosiect Celf Tirwedd Llechi G. Orllewin Cymru.Mae gwaith arbennig wedi ei gynhyrchu.Bydd Catrin yn dychwelyd i weithio gyda rhagor o grŵpiau toc👍🎨✍️
@SiopOgwen
Dyma olygfa hyfryd yn diweddu wythnos lwyddiannus o groesawu’r disgyblion hŷn yn ôl. Tro CA3 wythnos nesaf. Such a beautiful view concluding a successful week of welcoming our senior pupils back to school. KS3’s turn next week👍
@CyngorGwynedd
Mae’r poteli dŵr newydd wrthi’n cael eu dosbarthu. Canlyniad uniongyrchol gwaith un o’r grwpiau
#llais
.Bwriad oedd lleihau plastig un defnydd.
Canlyniad = atal 40000 o boteli dŵr un defnydd gael eu gwerthu yn yr ysgol. Da iawn chi grŵp amgylchedd👏🏽
Dymuniadau gorau i bawb sydd yn derbyn canlyniadau arholiad yng Nghymru heddiw. Gobeithio byddwch yn llwyddo i gyrraedd rhan nesaf eich taith ond cofiwch hefyd fod sawl llwybr arall ar gael.🤞🍾🤷💪🏻
We’re immensely grateful to those who have donated old laptops this week, Mr. Speddy has refurbished 5 devices to be loaned out to pupils without access to work. Any further offers much appreciated. Please contact ydo
@ydo
.cymru or 01248600291. Thanks.
Pob hwyl i ddisgyblion bl11 sy’n mynychu’r “Prom” heno yng Ngharreg Brân. Pawb yn edrych yn smart iawn ac yn barod am wledd 🤩💃🏼🕺🏼🍽️
#ClassOf2023
@CarregBran
@ogwen360
Mae disgybl
@YsgolAc
@PenybrynPesda
wedi cadw ei feiro arbennig gan y Pennaeth ers dros 5 mlynedd. Oes rhywun yn gallu curo hyn?👌A pupil has kept his special award pen from Ysgol Penybryn for over 5 years- has anyone else kept theirs for longer? 😯
#chwecheddosbarth
@CerenLloyd
Diolchiadau ENFAWR i holl ddisgyblion, staff a rhieni YDO am yr hyn rydym wedi ei gyflawni y tymor yma er gwaethaf yr heriau lu fu’n ein wynebu. Bu ymdrech arbennig i barhau efo dysgu ar sawl ffurf tra’n dilyn y canllawiau i aros yn ddiogel. Nadolig Llawen. ❤️💜
Mae disgyblion bl7 wrth eu boddau gyda’u gwersi ‘Drama a Pherfformio’ wythnosol.Maent yn archwilio emosiynau a theimladau ar hyn o bryd😤😞😫😁😳
@AngharadLlBeech
#creadigol
#hyder
Yr7 pupils love their weekly Drama lessons.They were studying emotions & feelings today👌
#amdani
Dyma ragor o newyddion dathliadau graddio cyn-ddisgybl ac aelod o staff. Llongyfarchiadau fil i Mari Jones am ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Plentyndod a Chymdeithaseg
@BangorUni
@prifysgolbangor
🎓👏🏽
Roedd hi'n bleser cyflwyno Proffiliau Bl.11 ac 13 wythnos gan ddathlu eu llwyddiannau mewn neuadd lawn am y tro cyntaf ers 2019!
We had the pleasure of presenting Yr.11 & 13 Profiles this week; Great to be able to celebrate their successes with the school hall full again.
Mae Cerys ac Elin bl12 wedi creu arddangosfa er mwyn rhannu gwybodaeth am yr Holocost gyda’u cyfoedion. Maent yn cymryd rhan mewn prosiect arbennig -Lessons from Auschwitz gyda’r Holocaust Education Trust.
@LlC_Addysg
Diolch a da iawn genod👏🏽
Diolch yn fawr i ddisgyblion ffantastig
@6eDyffrynOgwen
am wneud gwith arbennig yn cynorthwyo bl7 ar eu taith i Rhyd Ddu. “Roedd y disgyblion yn wych; cefnogi, annog, cymell, trefnu a sgwrsio gyda disgyblion bl7, roedden nhw wir yn gaffaeliad” meddai’r hyfforddwr.👏🏽
Croeso yn ôl i holl fyfyrwyr y chweched dosbarth. Cafwyd diwrnod anwytho llawn hwyl! Rydym yn hynod o falch i weld cymaint yn dychwelyd i YDO i ddilyn eu breuddwydion🤩📚✍️
Bu cyfarfod ffarwel a chyflwyno canlyniadau i fyfyrwyr bl13 Ddydd Mercher.Unwaith eto,mae ein pobl ifanc yn haeddu pob clod am ddangos gwytnwch,dyfalbarhad a chymeriad yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.Maent wedi gweithio’n hynod o galed a maent yn llawn haeddu pob canmoliaeth👏🏽
Charity day- Raising awareness of breast cancer and childhood liver disease and remembering Morgan🤩Congrats to Gwilym,Mabon, Mattia,Gwenno,Erin,Elliw and Elin in the 1mile challenge. Thank you to all the sixth formers who organized the day and marshalled👏🏽
@BreastCancerNow
Pob lwc i ddisgyblion sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw. Rydym yn hynod o falch o ymdrechion a gwytnwch pob ohonynt beth bynnag fydd ar y papur 🤩✉️📃
#AmdaniDyffrynOgs
#balch
Diwrnod ‘Cymru Coch’ yn yr ysgol heddiw. Codi arian a gwylio Cymru v Fiji🏉Awyrgylch arbennig yn y neuadd. Diolch i bawb am eu cyfraniad 🏴🏴🏴 The whole school were supporting today, and raised money for pupil projects in the process. Diolch👍
Llongyfarchiadau i Beca a Luned am gyrraedd rowndiau gyn-derfynol cystadlaeth dadlau ysgolion Cymru.
Congratulations to Beca and Luned for reaching the semi-finals of the Welsh schools debating championships.
@Llais_Ogwan
@WCIA_Wales
@Golwg360